Y Ddadl Fangoraidd

Benjamin Hoadly, Esgob Bangor, paentiad gan William Hogarth, c. 1743

Dadl ddiwinyddol o fewn Eglwys Loegr yn y 18g oedd y Ddadl Fangoraidd (Saesneg: The Bangorian Controversy).

Tarddodd y ddadl o lyfr o waith George Hickes, a gyhoeddwyd yn 1716 ar ôl iddo farw. Yn Constitution of the Catholic Church, and the Nature and Consequences of Schism, dadleuai Hickes, dros esgymuno pob eglwyswr heblaw y rhai oedd wedi gwrthod y llw oedd yn derbyn y teyrnoedd William a Mary yn ben ar yr eglwys. Ymatebodd Benjamin Hoadly, Esgob Bangor, mewn llyfr dan y teitl Preservative against the Principles and Practices of Non-Jurors, oedd yn argymell safbwynt Erastiaeth, sef mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben ar yr eglwys. Ar 31 Mawrth, 1717 pregethodd Hoadly, ym mhresenoldeb Siôr I ar Natur Teyrnas Crist. Roedd ei destun o Efengyl Ioan 18:36, "Fy mrenhiniaeth I, nid yw o'r byd hwn". O hyn, dadleuodd Hoadly nad oedd cyfiawnhad beiblaidd i unrhyw lywodraeth eglwysig. Perthynai'r eglwys i Dduw ac nid i'r byd hwn, meddai, ac nid oedd Crist wedi dirprwyo'i waith i unrhyw gynrychiolydd bydol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy